Mae Cymuned Caergybi yn ethol 16 o gynghorwyr bob 4 blynedd i wasanaethu ar gyngor y dref. Mae'r Cynghorwyr yn gwasanaethu'r gymuned yn eu hamser eu hunain ac yn cael £150 o lwfans os ydynt yn dewis ei hawlio. Yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol, mae'r Cyngor yn ethol Maer y Dref, sy'n gwasanaethu am flwyddyn tan y cyfarfod cyffredinol blynyddol nesaf. Mae'r aelodau etholedig hefyd yn cynrychioli'r Cyngor Tref ar wahanol gyrff statudol.
Mae’r Cyngor Tref yn darparu'r gwasanaethau canlynol i’r gymuned yng Nghaergybi. Mae'n cynnal 6 maes chwarae yn yr ardal, Neuadd y Dref sydd yn cael ei ddefnyddio gan amryw o sefydliadau lleol, mynwent Maeshyfryd, rhandiroedd Ffordd y Plas, arosfannau bysiau, y Senotaff, Byrddau Gwybodaeth, cyfleuster gadael bagiau yn y porthladd, glanhau Pont Porth Celtaidd, ac yn rhannol gyfrifol am Gloc y Dref.
Mae'r Cyngor hefyd yn cyflogi Clerc Tref a Dirprwy Glerc sy'n gyfrifol am reoli cyllideb y Cyngor. Maent hefyd yn cynghori'r Cyngor yng nghyfarfodydd y Cyngor ac yn is-bwyllgorau yn unol â'r Deddfau Llywodraeth Leol. Mae hefyd yn cyflogi 24 o staff eraill mewn rolau amrywiol. Hefyd un Teipydd rhan-amser sy'n gyfrifol am gynnal cronfa ddata'r Cyngor sy'n ymdrin â'r ymholiadau o ddydd i ddydd yn Neuadd y Dref a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd o'r Cyngor. Gofalwr rhan-amser sy'n gyfrifol am gadw Neuadd y Dref yn lân ac agor a chau Neuadd y Dref. Mae'r Cyngor hefyd yn cyflogi Person Trwsio a Pherson Trwsio Cynorthwyol sy'n cynnal caeau chwarae'r Cyngor a hefyd mân waith cynnal a chadw yn Neuadd y Dref, cyflogir 2 aelod o staff yn y porthladd i redeg y Swyddfa gadael bagiau, 2 aelod o staff ac 1 achlysurol i redeg y fynwent.
Mae'r Cyngor Tref yn cyfrannu dros £4,000 i achosion lleol teilwng bob blwyddyn, sy'n cynnwys yr Ŵyl Forwrol, Gŵyl Flodau Llaingoch a darparu geiriaduron i bob disgybl Ysgol Gynradd sy'n mynd i'r Ysgol Uwchradd am y tro cyntaf.
Yn mis Mai 2013 mae Cyngor Tref wedi cymryd ymlaen prydles 25 mlynedd ar adeilad yr Empire yn y dref. Maent wedi llwyddo i gael grant i adnewyddu'r hen sinema i safon gyfoes fodern, ac agor Canolfan Chwarae meddal ar y llawr gwaelod i blant bach a phobl ifanc yn eu harddegau. Sydd hefyd yn cynnwys y ' Laser Quaser '.