Mae'r dogfennau isod yn cynnwys manylion am wasanaethau y mae Cyngor Tref Caergybi yn eu darparu i'r gymuned drwy arian dreth y dref.
Gwasanaethau y mae Cyngor Tref Caergybi yn eu darparu i'r gymuned drwy braesept y dref o’r arian a godwyd drwy'r Empire, Safle Gadael bagiau, llogi Neuadd y dref. Mae'r Cyngor Tref yn gallu cadw'r praesept yn isel a buddsoddi'r arian a godwyd drwy'r prosiectau hyn ar gyfer gwasanaethau cymuendol eraill fel y toiledau yn SWIFT Square, teledu cylch cyfyng ac ardaloedd chwarae i'r plant. Dyma'r hyn rydych yn ei dalu os ydych yn byw mewn band ' A ' £1.47 yr wythnos; am fand ' B ' mae'n £1.71 yr wythnos; ar gyfer band ' C ' mae'n £1.96 yr wythnos; am fand ' D ' mae'n £2.20 yr wythnos. Nid yw Cyngor y Dref yn derbyn unrhyw gyllid o drethi busnes.
Dyma rai o'r gwasanaethau a ddarperir:
- Cyllido 87% o gost cynnal Mynwent Maeshyfryd. Cyllidir 13% gan Gyngor Cymuned Bae Trearddur
- Neuadd y Dref yn cynnwys llogi’r neuadd, llogi’r siambr a llogi’r swyddfeydd
- Sinema’r Empire
- Canolfan Chwarae’r Empire
- Y Parc
- Y Senotaff
- Yn rhannol gyfrifol am Gloc y Dref
- Cofgolofn i goffáu llongwyr yr Iseldiroedd yn Nhraeth Newry
- Toiledau Cyhoeddus yn Swift Square yn y dref ac yn Nhraeth Newry.
- System Cylch Cyfyng i’r dref
- Rheoli’r chwe byngalo (Elusendai Penrhos) yn Kingsland i’r henoed
- Lle chwarae Traeth Newry
- Lle chwarae Kingsland
- Lle chwarae Ffordd Llundain
- Lle chwarae Ffordd Llanfawr
- Lle chwarae Hen Ffordd yr Ysgol Llaingoch
- Lle chwarae Lôn Newydd Llaingoch
- Lle chwarae Peibio
- Gwirio’r offer chwarae yng Nghanolfan Gymunedol Gwelfor
- Amrywiol gontractau amaethyddol gydag awdurdodau a busnesau lleol
- Yn gyfrifol am arwyddion gwybodaeth o amgylch y dref.
- Y rhan fwyaf o gysgodfannau bysus o amgylch Caergybi
- Codi sbwriel yn y Porth Celtaidd a, hefyd, glanhau’r gwaith dur dan gontract i Gyngor Sir Ynys Môn
- Rhoi rhoddion i elusennau lleol gan gynnwys Gŵyl Hamdden/Morol Caergybi
- Sicrhau 26 swydd gynaliadwy yn y dref
- 75 rhandir yn Ffordd Plas.
- Goleuadau Nadolig yn y dref
- Ymgynghorir â Chyngor y Dref ynghylch ceisiadau cynllunio i’r dref ond Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor Sir sy’n gwneud y penderfyniad terfynol.
- Mae’r 16 Cynghorydd Tref yn rhoi o’u hamser a gallant hawlio lwfans o £150 y flwyddyn yn ogystal â lwfans mynychu.
- Bydd y Cyngor Tref yn parhau i weithio’n agos gyda’r holl ddarparwyr sy’n dymuno dod i Gaergybi er mwyn sicrhau y caiff pobl leol flaenoriaeth o ran y gwaith a gaiff ei greu a, lle bynnag y bo modd, er lles cymunedol y dref.
- Mae cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd. Mae cofnodion ar wefan y Cyngor er gwybodaeth.
- Cyflwynir geiriadur gan y Cyngor Tref i bob plentyn Ysgol Gynradd sy’n mynd i fyny i’r Ysgol Uwchradd.
- Cynhelir amrywiol ddiwrnodau cymunedol..
Nid Cyngor Tref Caergybi sy'n gyfrifol am y gwasanaethau canlynol.
Cysylltwch â'r Cyngor Sir neu eich Cynghorydd Sir am y gwasanaethau canlynol.
- Grantiau i fusnesau neu unigolion
- Priffyrdd gan gynnwys parcio a linellau melyn
- Tai
- Penderfyniadau terfynol ar bob cais cynllunio.
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Goleuadau stryd
- Gwaredu gwastraff