Mae mynwent Maeshyfryd yn cael ei chynnal gan gydbwyllgor gladdu Caergybi, sy'n cynnwys Cyngor Tref Caergybi a Chyngor Cymuned Bae Treaddur. Mae archwiliadau coffa yn cael eu cynnal yn reolaidd gan staff hyfforddedig, er mwyn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch, os gwelir bod cofebau yn anniogel a bod perygl yna cânt eu gosod yn fflat ac y cysylltir â'r perchennog lle y bo'n bosibl. Os hoffech wybod mwy neu os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â Neuadd y Dref.
Cyfarwyddiadau i gôd post Sat Nav y fynwent yw LL65 2AP.
Cofnodion y fynwent
Mae cofnodion wedi'u cadw yn Maeshyfryd ers 1876. Mae Cyngor y Dref yn darparu gwasanaeth i ymchwilio'r archifau ar eich rhan. Mae'r gwasanaeth hwn yn costio £30.
Ffôn. 01407 764608
Thetis
Mae Cofeb Thetis yn Maeshyfryd er côf am 99 enaid coll oedd ar lynges HMS/M Thetis yn Lerpwl ar ddydd Iau Mehefin 1af 1939.
Y Capel
Mae'r Capel wedi cael ei adnewyddu'n helaeth dros y blynyddoedd ond mae'r gloch gwreiddiol wedi gallu cael ei chadw.
Er mwyn cael cyfarwyddiadau ar gyfer côd post sat nav y fynwent LL65 2AP , defnyddiwch y linc isod ar gyfer Google map..