Mae Cyngor Tref Caergybi yn chwilio am fusnesau lleol i’w helpu i adfywio’r Dref a chael mwy o bobl i ddod i Gaergybi.
Mae cynlluniau ar y gweill i adnewyddu’r cysgodfannau adfeiliedig i greu ciosg mwy modern i fasnachwyr lleol eu llogi’n flynyddol, gan annog trigolion Caergybi i siopa, bwyta ac yfed yn lleol.
Y Ciosgs
Mae’r cysgodfannau sy’n edrych dros Draeth Newry wedi eu defnyddio gan drigolion ers sawl blwyddyn. Er iddynt gael eu codi’n wreiddiol i fod yn gysgodfannau bysus, bellach cânt eu defnyddio gan bobl leol pan fyddant yn mynd am dro ar draws Traeth Newry.
Dros y blynyddoedd mae’r cysgodfannau wedi mynd i edrych yn flêr ac mae eu cyflwr yn druenus.
Cred Cyngor Tref Caergybi y gellid defnyddio’r cysgodfannau i roi cyfle i fusnesau lleol yn ogystal ag i groesawu pobl leol a thwristiaid trwy gydol y flwyddyn.
Y Gronfa Ffyniant Bro
Amcan y gronfa ffyniant bro yw adfywio canol y dref a’r ardaloedd cyfagos a throi’r dirywiad ar ei ben. Yn ei dro, byddir yn creu mwy o swyddi i drigolion Caergybi wrth, hefyd, fod o fantais i’r economi lleol.
Cymeradwywyd y Gronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU ym mis Ionawr 2023. Gwnaeth Cyngor Sir Ynys Môn gais am fuddsoddiad o £17m i ganol y dref er budd y gymuned.
Derbyniodd Cyngor Tref Caergybi £1.7M o arian grant am ddau brosiect yn y dref fel rhan o ofynion Llywodraeth y Du ar gyfer y Gronfa. Bydd yn mynd ati i adnewyddu asedau sydd ganddo eisoes, megis y Cysgodfannau, a’u hailddatblygu er lles trigolion a thwristiaid. Bydd cysgodfannau’r traeth, sydd wedi gweld eu dyddiau gwell, yn cael eu hailddatblygu’n giosgs i’w rhentu i fusnesau unigol.
Cymerwch Ran
Ydych chi’n chwilio am eiddo i werthu eich cynnyrch?
- Bydd y Cysgodfannau’n cael eu prydlesu i fusnesau cymeradwy.
Ynddynt bydd:
- Tri safle bychan i werthu bwyd a diod.
- Un safle manwerthu masnachol
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano:
Bwyd a Diodydd:
- Brechdanau
- Paninis
- Teisennau
- Diodydd oer
- Coffi
- Ysgytlaeth
- Hufen Iâ
Manwerthu Masnachol:
- Llogi Offer
- Gwerthu Cofroddion
Gall manwerthu masnachol fod yn unrhyw un o’r uchod neu gellir cymryd awgrymiadau busnes.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ffoniwch ni heddiw ar 01407 764608.
I gyflwyno’ch diddordeb, anfonwch eich ymholiad i’r cyfeiriad e-bost isod ynghyd â chopi o’ch cynllun busnes.15 Awst 2023 yw’r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio. Bydd yr holl geisiadau’n cael eu hadolygu gan dîm Prosiect y Gronfa Ffyniant Bro a byddir yn rhoi gwybod i’r ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 11 Medi 2023 fan bellaf.
This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.